BRO
YR ARDAL
Cafodd Kate Roberts ei geni a'i magu yn Rhosgadfan ar gyrion Dyffryn Nantlle a mynyddoedd Eryri, a thafliad carreg o Gaernarfon, ar droad yr 20fed ganrif, pan oedd y diwydiant llechi yn ei anterth. Er iddi ymgartrefu yn y pen draw yn Ninbych, arhosodd ardal ei phlentyndod yn agos iawn i'w chalon, a bu'n ysbrydoliaeth iddi drwy gydol ei gyrfa lenyddol.
Ardal Moel Tryfan yw cefndir ei gweithiau cynnar - dyma ei chynefin a magwrfa ei dychymyg - a'i hatgofion yw deunydd crai ei straeon a'i nofelau. Ei hardal a'i magwraeth yno oedd yn gyfrifol am ei gweledigaeth arbennig.
Mae'r fro hon yn gofiant gweladwy i gymeriadau Kate Roberts, ac wrth gerdded mewn i Gae'r Gors neu grwydro ardal Moel Tryfan, mae'r llwyfan wedi'i osod ar eich cyfer.
O edrych ar dyddynnod y fro daw cymeriadau 'Laura Jones' ac 'O Gors y Bryniau' yn fyw. Ymysg y grug a'r afonydd y bu'r plant yn chwarae, ar Foel Smytho y bu'r Te yn y Grug bythgofiadwy, ac o ben ucha'r Lôn Wen y gallai Jane Gruffydd weld draw am y pentref a'r tomennydd llechi yn Traed Mewn Cyffion. Y Mynydd Grug oedd pen draw'r byd i Deian a loli, yn siop Rhostryfan y gwnaeth Ffanni Rolant ei 'Thaliad Olaf' ac yn chwarel y Cilgwyn y bu ei thaid a'i thad yn gweithio.
Yn yr adran yma:
- Yn yr adran yma o'r wefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol:
- Hanes yr Ardal
- Yr Amgylchedd
- Enwogion Eraill
- Chwedloniaeth
- Darllen Pellach
- Mapiau a Llwybrau



