Magwyd amryw byd a ddaeth yn ffigyrau amlwg yn ei byd llenyddol yn ardal Moeltryfan a Dyffryn Nantlle. Arloeswr y stori fer, Dic Tryfan o Rosgadfan; Glasynys o Rostryfan; y bardd Lisi Jones o’r Fron; yr ysgolheigion Syr Thomas Parry a Dafydd Glyn Jones a’ r llenor dawnus Gruffudd Parry o Garmel; un o’r goreuon ymhlith ein dramodwyr, y Dr. John Gwilym Jones o’r Groeslon; Syr T H Parry Williams o Ryd-ddu; y cantorion Brodyr Ffransis o Ddrws-y-coed; Hywel D Roberts o Nantlle; un o’n beirdd gorau, R Williams Parry, yr amryddawn Gwilym R Jones ac Idwal Jones o Dalysarn; R Alun Roberts, Silyn Roberts a Mathonwy Hughes o ochrau’r Cymffyrch; a Llyfni Huws a John Llywelyn Roberts o Benygroes.
Mewn cyfnod diweddarach cawn John Selwyn Lloyd, Bryn Fôn a Bleddyn Huws o ochrau Nebo a Thanrallt, a Wynfford Ellis Owen a Cefin Robets o Lanllyfni
Mae’n ddiau fod eu magwraeth yng nghymdeithas glos yr ardal chwarelyddol wedi dylanwadu’n gryf arnynt oll mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Hefyd:
Oriau Agor Mawrth - Gwener: 10 - 4 Sadwrn a Sul: 1 - 4 Ar gau ar ddydd Llun |
![]()