Bydd y Ganolfan yn cynnig teithiau cerdded a theithiau car o amgylch yr ardal. Bydd posibl trefnu taith ar gyfer grwpiau, gydag un o’n swyddogion yn eich tywys o amgylch lleoliadau arwyddocaol, fel y tŷ lle y ffilmiwyd y cynhyrchiad o Traed mewn Cyffion, a’r mynydd lle yr ai Kate Roberts, a nifer o gymeriadau ei llyfrau i chwarae a synfyfyrio. Gallwch hefyd fynd am daith ar eich pen eich hun o amgylch yr ardal, a bydd y dudalen hon yn cynnig cyfarwyddiadau a mapiau i’ch galluogi i wneud hynny.
Yn y cyfamser, os byddwch chi eisiau mwy o wybodaeth am y math o deithiau y byddwn yn eu cynnig, cysylltwch â’n Rheolwr.
Hefyd:
Oriau Agor Mawrth - Gwener: 10 - 4 Sadwrn a Sul: 1 - 4 Ar gau ar ddydd Llun |
![]()