CEFNDIR
CEFNDIR
Ym 1965 prynodd Kate Roberts hen gartref ei phlentyndod (a chartref ei rhieni cyn iddyn nhw symud i Faesteg ym 1923) gan Brian Jones. Ni chafodd brynu'r tir, ond penderfynodd roi gofal y t? yn nwylo Ymddiriedolwyr. Roeddent i gyd yn aelodau amlwg o Blaid Cymru ar y pryd.
| Islwyn Ffowc Ellis | |
| J R Jones | |
| R E Jones | |
| Cassie Davies | |
| John Richard Cadwaladr | |
| Ifor Wyn Williams | |
| John Gwilym Jones | |
| Elwyn Roberts |
Sefydlwyd Cronfa Deyrnged Dr Kate Roberts ym 1965. Erbyn 1967 roedd swm o dros £1300 wedi'i gasglu, a oedd yn ddigon i'r Gronfa allu prynu Cae'r Gors, ond nid i adfer y t?. Tynnwyd y to a'r hen blaster oddi ar yr adeilad, gan adael muriau moel y tyddyn yn gwmni unig i'r giât mochyn o'i flaen. Cyflwynwyd Cae'r Gors i'r genedl ym 1969, a bu'n adfail am flynyddoedd wedi hynny o dan ofal y Gronfa.
Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 1995, ddeng mlynedd wedi marwolaeth Kate Roberts ym 1985, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Llyfrgell Caernarfon gan rai a oedd yn poeni am gyflwr yr adeilad ac yn dymuno gweld y tyddyn yn cael ei ddefnyddio i rywbeth o werth yn hytrach na lloches i ddefaid Rhosgadfan! Sefydlwyd Cyfeillion Cae'r Gors o ganlyniad i'r cyfarfod hwn, gyda'r bwriad o ddechrau casglu arian er mwyn adnewyddu Cae'r Gors i fod yn gofeb barhaol i'r llenor.
Ymysg y cyfeillion hyn oedd y diweddar Guto Roberts a'i wraig Marian, y diweddar brif lenor Eurig Wyn, a'r cynhyrchydd teledu o Rosgadfan, Norman Williams. Ymysg y cefnogwyr yn y cyfarfod hwnnw oedd Dewi Tomos o Rostryfan, sydd bellach yn Gadeirydd Cyfeillion Cae'r Gors.
Ym 1997, cyflwynwyd Cae’r Gors i’r Cyfeillion gan ddau o’r Ymddiriedolwyr gwreiddiol, Islwyn Ffowc Ellis ac Ifor Wyn Williams, ac etholwyd Ymddiriedolwyr newydd er mwyn parhau gyda'r gwaith.
Yn 2001, gwnaeth y Cyfeillion gais am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn datblygu'r cynllun i sefydlu canolfan yng Nghae'r Gors.
Datganiad Hygyrchedd - cliciwch yma
Hefyd:
Yn yr adran yma:
- Yn yr adran yma o'r wefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol:
- Taith Weledol
- Ymweliadau Grŵp
- Siop
- Prisiau
- Oriel



