Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors

“Ein nod yw creu adnodd gwerthfawr ar gyfer y gymuned leol a chanolfan i ddysgu, darganfod a deall hanes, llenyddiaeth a threftadaeth gyfoethog Rhosgadfan a’r cyffiniau, ardal enedigol Kate Roberts.”
Bwrdd Rheoli Cyfeillion Cae’r Gors

Gwirfoddoli

Mae’r Cyfeillion yn gymdeithas o bobl frwd sy’n cefnogi Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, boed hynny mewn gair neu weithred.

Os hoffech chi fod yn Gyfaill mi gewch:

  • gylchlythyr a fydd yn eich hysbysu o holl weithgareddau’r Ganolfan;
  • gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig;
  • y cyfle i ymuno â grŵp gwirfoddoli’r Ganolfan.

Does dim rhaid talu i fod yn Gyfaill ac rydym yn awyddus i ddenu aelodau newydd. Os hoffech chi ymuno â’r Cyfeillion cliciwch yma.