Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors

“Digwyddasai popeth pwysig i mi cyn 1917, popeth dwfn ei argraff.”
Y Lôn Wen

Bywgraffiad

Ganwyd Kate Roberts ar y 13eg o Chwefror, 1891, yn ferch i Owen a Catrin Roberts ac yn blentyn cyntaf ail briodas y ddau. Mewn blynyddoedd i ddod, ganwyd tri brawd iddi, Richard, Evan a David.

Derbyniodd ei haddysg gynradd yn Ysgol y Cyngor, Rhostryfan (1895-1904), cyn symyd ymlaen i Ysgol Sir Caernarfon wedi iddi ennill ysgoloriaeth (1904-1910). Rhwng 1910 a 1913, bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, gan astudio o dan diwtoriaeth John Morris Jones ac Ifor Williams, a graddio gydag Anrhydedd yn y Gymraeg a derbyn Tystysgrif Athrawes.

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913-14), lle y dysgodd T Rowland Hughes ac Ysgol Sir Ystalyfera (1915-17), lle y bu’n dysgu Gwenallt, y disgrifiodd fel ‘y disgybl disgleiriaf a gafodd erioed’. Yn 1917, symudodd i Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr, gan aros yno am dros ddeng mlynedd hyd 1928.

Bu’r blynyddoedd 1925 ac 1926 yn rhai arwyddocaol iawn ym mywyd Kate Roberts am fwy nag un rheswm. Ym 1925, cafodd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion ‘O Gors y Bryniau’ ei chyhoeddi, ac fe ymunodd â Phlaid Cymru adeg ei sefydlu ym Mhwllheli, ac ym 1926, cyhoeddwyd ei hail gyfrol, ‘Deian a Loli’, ac yn bwysicach na dim, fe gyfarfu ei darpar wr, Morris T Williams yn stesion Y Groeslon, wrth i’r ddau gychwyn am Ysgol Haf gyntaf y Blaid ym Machynlleth.

Priodwyd Kate Roberts a Morris T Williams ym 1928 ac ymgartrefodd y ddau yng Nghaerdydd am gyfnod, cyn symud i Ddinbych ym 1935 a phrynu Gwasg Gee, cyhoeddwyr Y Faner. Bu farw ei gwr ym 1946, ond aeth Kate Roberts yn ei blaen i redeg y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd, gan gyhoeddi Y Faner a chyfrannu’n gyson at ei golofnau gydag erthyglau amrywiol am wleidyddiaeth, llenyddiaeth a hyd yn oed gwaith tŷ! Ymddeolodd o’i gwaith gyda’r Faner yn 1956, ond parhaodd i fod yn weithgar iawn ac i ysgrifennu’n rheolaidd hyd ei marwolaeth ar y 14eg o Ebrill, 1985, yn 94 oed.

Dr.KATE ROBERTS
(Nos ei hangladd)

Mae rhan o Gymru heno
A chraig o wraig yn y gro, –
Rhan oedd ry fawr i huno.

Chwerw alaeth bro’r chwareli – a naddodd
Yn llenyddiaeth inni,
Heniaith hon a’i rhyddiaith hi
Heddiw sy’n gofeb iddi.

MATHONWY HUGHES.

 

Hefyd: