*(a.o.b) - allan o brint.
O Gors y Bryniau
Cyfrol gyntaf Kate Roberts o straeon byrion, a ysgrifennwyd i gyd rhwng 1920 ac 1925 yn portreadu cymdeithas ardal Rhosgafdan, yn dilyn ei ‘gweledigaeth o fywyd’
Deian a Loli
Cyfrol o straeon byrion am efeilliaid ifanc yn byw ar ochr Moel y Grug. Gwelir yma am y tro cyntaf ddawn arbennig Kate Roberts i gyfleu diniweidrwydd a chyffro bywyd plentyn.
Rhigolau Bywyd
Cyfrol o straeon byrion yn canolbwyntio’n bennaf ar rôl y ferch fel gwraig a mam, ynghyd â’r holl bethau sydd yn rhan o hynny sy’n creu ynddi ei rhwystredigaeth, eu hanobaith, ac efallai ychydig deimladau o ramant ar brydiau.
Laura Jones
Nofel am Loli wedi iddi fynd i weini, rhai llythyrau adref yn disgrifio bywyd cymdeithasol y cyfnod. Deian a Loli wedi gwahanu a dieithrio a Loli’n mynd yn Laura.
Traed mewn Cyffion
Nofel yn dilyn hynt a helynt y teulu Gruffydd, gan ganolbwyntio ar y fam, Jane Gruffydd, wrth iddi hi a’i theulu ymdrechu i gadw deupen llinyn ynghyd ac ymdopi ag amodau byw caled yng nghysgod y chwareli rhwng 1880 a diwedd y rhyfel byd cyntaf.
Ffair Gaeaf
Cyfrol o straeon byrion, tair wedi’i lleoli yng nghymoedd de Cymru, y gweddill yn Arfon. Sôn am anghyfiawnder a dioddef. ‘Y Taliad Olaf’ yn un o’i goreuon.
Stryd y Glep
Nofel ar ffurf dyddiadur yn dilyn trigolion un stryd dros y blynyddoedd yn arwain at yr Ail Ryfel Byd, wrth i ‘bobl ddwad’ o’r tu allan amharu ar awyrgylch glos eu cymuned. Nofel fewnblyg, sy’n nodweddiadol o ddechrau’r hyn a elwir yn ‘Gyfnod Dinbych’ Kate Roberts
Y Byw sy’n Cysgu
Nofel yn seiliedig mewn cymdeithas agos, ac yn trafod gwahanu, ysgaru a godineb mewn adeg pan oedd stigma cymdeithasol ynghlwm â phob un o’r pynciau hyn.
Te yn y Grug
Cyfrol o straeon byrion dwys a digrif am blant. Un o weithiau mwyaf poblogaidd Kate Roberts, sy’n rhoi i ni ddarlun nodweddiadol fanwl a synhwyrus o fywyd drwy lygaid merch fach o’r enw Begw.
Y Lôn Wen
Cyfrol hunangofiant Kate Roberts, yn olrhain hanes ei magwraeth yn Rhosgadfan. Ceir yma ddisgrifiadau manwl a chywrain, ynghyd ag atgofion melys, o Gae’r Gors, ei theulu a’r gymdeithas, sef y bobl a’r llefydd a adawodd argarff ddwfn arni ac a fu’n ysbrydoliaeth iddi.
Tywyll Heno
Stori fer hir yn dilyn profiadau gwraig gweinidog yng nghanol yr ugeinfed ganrif, sy’n cael ei llethu gan amgylchiadau ei hoes ac yn treulio amser mewn ysbyty meddwl.
Hyn o Fyd
Pump o straeon byrion gydag amrywiaeth cefndir a thechneg. Trafod digalondid Kate Roberts gyda chyflwr cymdeithas
Tegwch y Bore
Nofel yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, stori garu ymhlith pethau eraill, yn gorffen yn obeithiol.
Prynu Dol
Cyfrol o straeon amrywiol yn trafod gwahanol themâu, a gwahanol bobl sydd i gyd (ag eithrio un) yn byw yng nghanol yr ugeinfed ganrif, ac yn profi holl gymhlethdodau’r cyfnod hwnnw.
Gobaith a Storïau Eraill
Cyfrol o straeon byrion amrywiol o wahanol gyfnodau yng ngyrfa Kate Roberts a gyhoeddwyd gyntaf mewn gwahanol gylchgronau a phapurau newydd. Mae cymeriadau a themau’r straeon i gyd yn wahanol, ond mae un peth yn gyffredin ym mhob un, sef y teimlad o obaith.
Yr Wylan Deg
Straeon byrion, dwy a ysgrifenwyd chwarter cynrif ynghynt yn sôn am hen wragedd. Ysgrifennodd y gweddill yn ei henaint.
Haul a Drycin
Casgliad o straeon byrion, wedi’u hysgrifennu rhwng y 20au a’r 80au, oll yn trafod cymeriadau yn ymgodymu â sefyllfoedd caled bywyd, ond yn canfod nerth i ddal ati drwy brofiadau bach pleserus. Mae rhai o’r straeon yn dilyn hanes Winni Ffini Hadog, a ymddangosodd gyntaf yn straeon Te yn y Grug.
Oriau Agor Mawrth - Gwener: 10 - 4 Sadwrn a Sul: 1 - 4 Ar gau ar ddydd Llun |
![]()