Darlith Flynyddol Cae’r Gors
Gydag Eigra Lewis Roberts, dydd Sadwrn, 18fed o Hydref, 12yp ym Melin Brwcws, Dinbych
Am y tro cyntaf yn hanes Cae’r Gors bydd y ddarlith flynyddol eleni yn cael ei chynnal y tu hwnt i ardal Rhosgadfan. Yn ôl Siân Eirian, Rheolwraig Cae’r Gors, mae cynnal y ddarlith flynyddol yn Ninbych yn gyfle i gryfhau’r cysylltiad sydd eisoes yn bodoli rhwng y ganolfan dreftadaeth yn Rhosgadfan â’r dref:
“Mae dylanwad Rhosgadfan a Dinbych i’w gweld yn fawr ar weithiau llenyddol Kate Roberts, ac er bod posib dadlau na adawodd pentref ei mebyd yn ysbrydol, bu’n ffigwr amlwg yng ngweithgareddau ei thref fabwysiadol.”
Ychwanegodd bod y ddarlith eleni yn achlysur cyffrous yn hanes Cae’r Gors:
“Rydym yn ffodus iawn bod Eigra Lewis Roberts wedi cytuno i draddodi’r ddarlith a fydd yn cynnig mewnwelediad pellach i waith Kate Roberts. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Siop Elfair, Rhuthun a Chronfa Dreftadaeth y Loteri am gefnogi’r digwyddiad.”
Pris tocyn yw £15, gyda chinio, pwdin, te a choffi yn gynwysedig yn y pris. Cysylltwch mewn da bryd i archebu eich tocynnau.
Clwb Darllen Cae’r Gors yn Cyflwyno: Noson Holi Awdur yng Nghwmni Dewi Prysor dan ofal Arwel ‘Pod’ Roberts Nos Wener, Gorffennaf 25ain Tocyn: £4 Raffl er budd Cronfa Ann Thompson |
Cylchlythyr Haf 2008 - cliciwch yma |
|
||
![]() |
|
||
Gweithdy Barddoniaeth Dydd Gŵyl Dewi |
Ewch i'r oriel i weld lluniau o weithdy barddoniaeth Twm Morys |
| STOMP CAE'R GORS
|
Yn Angen Llyfrau ail-law gan Kate Roberts i’w gwerthu yn siop y Ganolfan Dreftadaeth. Cysylltwch â Chae’r Gors am fwy o fanylion. |
![]() |
|
Profiad bythgofiadwy i’r teulu i gyd! |

Anfonwch eich swynion a’ch lluniau at:
Cae’r Gors: Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts
Rhosgadfan
Caernarfon LL54 7EY
Dyddiad cau: 26ain o Hydref, 2007
Bydd gwaith y buddugol yn cael ei arddangos yn y ganolfan yn ystod gwyliau hanner tymor ac ar ein gwefan
Gwobr: Llun Rala Rwdins mewn ffrâm wedi’i arwyddo gan Angharad Tomos a thocyn anrheg Woolworths
Cofiwch nodi eich enw, oed a’ch ysgol ar eich gwaith!!!


Dydd Mercher Mai 16 2007
Rhwng 1.00 pm - 4.00 pm
Cyfranwyr: Dewi Tomos (Cadeirydd), Norman Williams
John Ogwen a Maureen Rhys, Yr Athro Gwyn Thomas
Lluniaeth yng Nghlwb Mountain Rangers.
![]() |
Bwyd o'r cloddiau
Ffrwythau a Llysiau gwyllt yng ngheginau ardal Kate Roberts Ydych chi'n gwybod hen ryseitiau sy'n defnyddio planhigion gwyllt? Neu os nad ydych, hoffech chi ddysgu amdanyn nw?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu rysáit neu mewn bod yn rhan o'r grŵp fydd yn eu casglu a'u trio allan dros y flwyddyn nesaf. - cysylltwch â Marika ar 01286-830913.
|
Arddangosiad nyddu gan Gild Gwynedd Dydd Llun Gŵyl y Banc, 27ain o Awst |
![]() |
![]() |
|---|
Croesawyd ymwelwyr arbennig iawn i Gae’r Gors yn ddiweddar. Daeth Malcolm Thomas a’i deulu, sy’n hanu o Granville, Efrog Newydd, am dro i’r Ganolfan Dreftadaeth i weld cartref ei hen daid, Owen Jones. Yn ôl cyfrifiad 1851, roedd Owen Jones a’i wraig a chwech o blant yn byw yng Nghae’r Gors; camp yn wir o ystyried pa mor gyfyng ydi hi yn y tŷ! Bu Owen Jones farw’n 1883, a daeth John Jones, mab hynaf Owen Jones, yn benteulu hyd nes ei farwolaeth yntau’n 1892. Dwy flynedd yn ddiweddarach symudodd Kate Roberts a’i theulu o Fryn Gwyrfai, sef tyddyn cyfagos, i fyw yng Nghae’r Gors yn 1895.
Darlith Flynyddol Cae’r Gors
‘Annwyl Kate…’ gan Dafydd Ifans
Cyflwyniad i lythyrau, llawysgrifau a lluniau Kate Roberts sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol
Mynediad am ddim
Nos Gwener, 15fed o Fehefin, 7.30yh, Neuadd Rhostryfan
Ffôn: 01286 831 715
e-bost: post@caergors.org
27ain Hydref 2006 yng Nghlwb Mountain Rangers, Rhosgadfan, 7.30 o'r gloch.
|
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006
Newyddion o'r Eisteddfod
Treuliodd staff a chyfeillion Cae’r Gors: Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch eleni. Hoffwn ddiolch i bawb ddaeth draw i’r stondin am eich diddordeb a’ch cefnogaeth.
Hoffwn hefyd longyfarch enillwyr ein cystadleuthau yn gyhoeddus. Enillydd y gystadleuaeth farddoni oedd Mererid Moffett o’r Hwlffordd, a gyfansoddodd y limrig isod:
Mi ddeffrodd Kate Roberts un bora’
‘Rol cysgu wrth ymyl gorilla.
“Wel, rwyt ti’n ddyn glew”
Meddai hi wrth ei flew,
“Ac yn gryf, ac yn dew, fel y gora’”.
![]() |
|---|
Llongyfarchiadau hefyd i Gwern, sy’n 9 oed ac yn dod o Bow Street yng Ngheredigion, am ennill y gystadleuaeth lliwio llun, gyda’r ymdrech ganmoladwy yma.
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 Rhaglen Weithgareddau Galwch heibio i gael gwybod mwy am y Ganolfan newydd gyffrous a’n cynlluniau i agor yn 2007!
Cystadlaethau drwy’r wythnos
Cwis Gwefan. Cyfle i ennill gwobr i blesio’r holl syrffwyr yn eich mysg!
Cystadleuaeth gorffen y gerdd dan ofal Arwel ‘Pod’ Roberts.
![]() |
|---|
Cliciwch yma am fwy o luniau o'r lansiad. |
Dydd Llun
Lansio’r wefan – 2 o’r gloch
Dewch draw i gael golwg ar ein gwefan newydd a chael eich llun yn fyw ar y we!
Dydd Mawrth
Amser stori gyda Angharad Tomos – 2 o’r gloch
Cyfle i gael gwybodaeth am ein pecyn addysg newydd sbon ac i’r plant gael ’chydig o hwyl!
Dydd Mercher
Y Chwarelwr dan arweiniad Dewi Tomos – 2 o’r gloch
Cyflwyniad byr i fyd a bywyd y chwarelwr.
Dydd Iau
Helfa Drysor
Helfa drysor o gwmpas y maes. £10 tocyn anrheg yn wobr.
Dydd Gwener
Beirniadaeth y gystadleuaeth gorffen y gerdd a dewis enw enillydd y cwis – 2 o’r gloch.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Cae’r Gors, 20 Heol y Dŵr, Pen-y-groes, Caernarfon, Gwynedd. LL54 6LR
01286 831715
www.caergors.org
post@caergors.org
![]() |
|---|
Cyfle i drosglwyddo cyfoeth ein treftadaeth i genedlaethau’r dyfodol
"Yr oedd aroglau cŵyr melyn lond y gegin, y dodrefn yn disgleirio a’r teils coch a du ar y llawr yn dywyll gan sebon a chadach. Gorweddai cysgodion ar ben draw y gegin fel eryr mawr yn lledu ei esgyll. Y tu ôl i’r cysgodion yr oedd darluniau teidiau a neiniau, ewythrod a modrybedd; marwnadau mewn fframiau i aelodau o’r teulu… Yr oedd tân mawr coch yn y grât a’r cochni yn rhedeg yn araf i’r marwor a ymestynnai’n bell i fyny’r simnai. Ychwanegid at olau’r aelwyd o dan y simnai fawr gan sach siwgr gwyn a roddasid ar y matin newydd. Yn y twll mawn wrth ochr y popty yr oedd y gath yn cysgu yn dorch."
Marwolaeth Stori, Kate Roberts
Ychydig o ddychymyg sydd ei angen arnoch i ddyfalu sut le oedd Cae’r Gors, cartref plentyndod Kate Roberts, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae disgrifadau cartrefol a chynnil yr awdures o fywyd tyddyn yn ardal chwarelyddol Rhosgadfan yn addurn cyson yn ei gwaith. Wrth ddarllen y disgrifiadau uchod hawdd yw dychmygu eich hun yn pendwmpian ar y gadair freichiau o flaen y tân i gyfeiliant cân grwndi’r gath a chlecian fflamau o’r grat.
Ym mis Ebrill 2007 ni fydd angen i chwi ddychmygu mwyach. Erbyn hynny bydd gwaith adfer y tŷ ac adeiladu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts wedi’i orffen, a bydd modd i chwi brofi amgylchiadau byw y cyfnod a dysgu am arteffactau a chreiriau’r oes. Bydd y Ganolfan yn cynnig darlun byw o fywyd yn yr ardal yn ystod cyfnod plentyndod yr awdures gan drafod byd y chwarelwr-dyddynnwr a’r wraig tŷ.
Er mwyn sicrhau dehongliad cynhwysfawr o’r cyfnod, estynnwn wahoddiad i’r sawl sy’n dymuno cyfrannu llyfrau, llythyrau a dogfennau, dodrefn, celfi a chreiriau i gasgliad y Ganolfan. Bydd y rhoddion a dderbynnir yn cael eu harddangos yng Nghae’r Gors ac yn fodd o sicrhau ein bod ni’n trosglwyddo cyfoeth ein treftadaeth i genedlaethau’r dyfodol.
![]() |
|---|
Gweler y rhestr isod o eitemau sydd o ddiddordeb arbennig i’r Ganolfan:
Bydd yr holl roddion yn derbyn gofal amgueddfaol ac fe gefnogir y Ganolfan yn ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Gynaladwyedd yr Ardoll Agregau, Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol, Cronfa Wledig Gwynedd a Tir a Môr Cyf.
Am ragor o fanylion parthed cynnig rhodd, boed yn fach neu’n fawr, i Ganolfan Dreftadaeth Kate Roberts, mae croeso i chwi gysylltu â mi.
Sian E R Davies
01286 882 202
post@caergors.org
Gobeithio y cafoch chi hyd ir wybodaeth yr oeddach yn chwilota. Croeso ichi gysylltu yn uniongyrchol a ni.
Oriau Agor Mawrth - Gwener: 10 - 4 Sadwrn a Sul: 1 - 4 Ar gau ar ddydd Llun |
![]()