Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors

“A dyma’r ofn yn dyfod yn ôl eto, ofn y bydd y darllenwyr yn diarhebu fy mod yn ysgrifennu am bethau mor ddibwys. Ond nid ydynt ddibwys i mi, dyna fy mywyd, dyna’r gymdeithas y ganed fi iddi.”
Y Lôn Wen

Noddi

Hoffech chi noddi Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts er mwyn sicrhau ei llwyddiant yn y blynyddoedd sydd i ddod?

Cafwyd nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gyfnod o bum mlynedd ar gyfer datblygu’r prosiect llawn ac adeiladu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts ar yr amod ei fod yn datblygu’n gynllun cynaladwy. Er mwyn sicrhau hyn mae’r Ganolfan yn awyddus i ddenu noddwyr drwy gynllun Rhodd o Gymorth.

Cynllun yw Rhodd o Gymorth sydd, cyn belled â’ch bod yn talu treth, yn eich galluogi i roi swm o arian i elusen, yna gall yr elusen honno adhawlio’r raddfa dreth sylfaenol ar eich rhodd gan gyllid y Wlad.

Rydym yn ddiolchgar am bob cyfraniad, boed hynny’n fawr neu’n fach – mae pob ceiniog yn werthfawr!