Byd Begw
- Pecyn Hanes i Ysgolion CA1 a 2Awdur: Eryl Thomas
Lluniau: Alan Jôs
Dyluniwyd gan Delwedd
Golygyddion: Siân E R Davies a Gwenllian Williams
Gwisgoedd: Gwenni Williams
Diolchiadau: Dewi Tomos, Megan Lloyd Williams, Ysgol Baladeulyn
Pris: £25
(pris llogi’r blwch gwrthrychau yw £10 y tymor. Yr ysgol i wneud trefniadau i’w gasglu a'i ddychwelyd)
Croeso i Fyd Begw, pecyn addysg trawsgwricwlaidd i ddisgyblion cyfnod allweddol 1 a 2. Mae’r pecyn addysg yn seiliedig ar y gyfrol Te yn y Grug gan Kate Roberts, ac yn trafod pob agwedd o fywyd ar dyddyn ar droad yr ugeinfed ganrif, a hynny trwy lygaid ifanc a sylwgar Begw. Mae tri agwedd i’r pecyn:
Cliciwch yma am ragor o fanylion parthed y straeon a’r gweithgareddau trawsgwricwlaidd
I Archebu:
Pecyn digidol yw Byd Begw, i’w lawr lwytho at ddefnydd yr ysgol.
Telerau ac Amodau:
Hawlfraint Cae’r Gors: Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts
Cedwir pob hawl.
Caniateir i’r ysgol sydd wedi talu am y pecyn i lawr lwytho ac atgynhyrchu unrhyw ran o’r pecyn addysg, ac nid oes cyfyngiad ar y nifer o gopïau a wneir.
Ni chaniateir atgynhyrchu na throsglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotocopïo,
recordio nac fel arall i unrhyw berson neu sefydliad ei ddefnyddio y tu allan i’r ysgol sydd wedi’i hawdurdodi i ddefnyddio’r pecyn.
Wrth dalu am y Pecyn Addysg rwyf wedi darllen a deall y telerau ac amodau uchod.
I dalu:
Cliciwch ar y botwm 'Paypal' isod ar gyfer taliad gael ei brosesu ar-lein. Ar ôl prosesu eich taliad, cliciwch ar "Return to Canolfan Dreftadaeth Kate Robert" mewn oren ar wefan Paypal i gael mynediad i'r Pecyn Addysg Ddigidol.
Oriau Agor Mawrth - Gwener: 10 - 4 Sadwrn a Sul: 1 - 4 Ar gau ar ddydd Llun |
![]()